#

Y Pwyllgor Deisebau | 25 Medi 2018
 Petitions Committee | 25 September 2018
 
 
 ,Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-829

Teitl y ddeiseb: Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i wahardd pob eitem blastig untro yng Nghymru. Amcangyfrifir bod y DU ac UDA yn unig yn taflu tua 550 miliwn o wellt plastig bob dydd. Er bod pob un ond yn cael ei ddefnyddio am gyfartaledd o 20 munud yn unig, maent yn cymryd canrifoedd i bydru. Yn ystod ymgyrch lanhau gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol y llynedd, ar gyfartaledd, canfu 138 o ddarnau o wastraff yn gysylltiedig â bwyd a diod ar bob 100m o draethau’r Deyrnas Unedig.

Mae angen atal hyn ac mae angen i’r amgylchedd fod yn flaenoriaeth.

Y cefndir    

Mae plastigion untro, neu blastigion a deflir i ffwrdd, wedi’u cynllunio i gael eu defnyddio unwaith, ac yna’u taflu, neu eu hailgylchu. Maent yn cynnwys eitemau fel poteli plastig, gwellt yfed, cwpanau coffi a deunydd pecynnu bwyd brys. Amlygodd y sylw diweddar ar y cyfryngau, yn arbennig gan y gyfres Blue Planet II y BBC, faint o weddillion plastig sydd yn ein cefnforoedd o ganlyniad i’n harfer o ‘daflu’ pethau i ffwrdd. Amlygir effaith plastig untro ar yr amgylchedd morol gan y ffaith ei fod mor gyffredin mewn canlyniadau arolygon sbwriel ar ein traethau. Dangosodd Adroddiad Beachwatch y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn 2017 mai darnau bach o blastig oedd yr eitemau a ganfuwyd amlaf ar draethau ledled y DU.

Roedd adroddiad yn 2017, sef Plastig Untro a’r Amgylchedd Morol (Saesneg yn unig) gan Eunomia ar gyfer Seas at Risk, yn cyfrif faint o wastraff plastig untro a oedd ‘ar hyd y lle’. Mae prif ganfyddiadau’r gwaith ymchwil yn cynnwys y canlynol:

§  nid oes angen i lawer o’r eitemau hyn gael eu gwneud o blastig (e.e. mae dewisiadau eraill, fel gwydr a phapur ar gael), tra bod eitemau eraill yn cael eu defnyddio’n ddiangen (e.e. gwellt yfed);

§  mae cefnogaeth gref a brwd gan y cyhoedd i gamau i leihau’r defnydd o blastig, ac mae’r gefnogaeth yn cynyddu ar ôl cyflwyno camau;

§  mae atebion ar gael ar gyfer defnyddio llai o blastigion untro, ac fe’u defnyddiwyd mewn llawer o fannau ledled y byd; a

§  byddai lleihau’n fawr y defnydd o’r prif eitemau plastig untro, yn ei hanfod, yn dileu ffynhonnell sylweddol o lygredd morol yn holl foroedd Ewrop.

Roedd adroddiad gan Eunomia, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018, sef Dewisiadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd yng Nghymru, yn amcangyfrif bod "cyfanswm o 404 miliwn o wellt yn cael eu defnyddio bob blwyddyn” yng Nghymru, ac "mae hyn gyfwerth â sgil-gynhyrchion gwastraff o ryw 150 tunnell o ddeunydd”.  Aiff ymlaen i ddweud:

Mae’r rhan fwyaf o wellt yfed wedi’u gwneud o bolypropylen, sy’n ailgylchadwy, ond nid oes llawer o’r cynhyrchion hyn yn cael eu gwahanu ar gyfer ailgylchu. Heb ddata pellach, rydym wedi tybio bod y cyfraddau ailgylchu ar gyfer y cynhyrchion hyn yn debyg i’r rhai ar gyfer cwpanau untro, sef 5%, ac felly mae 7.5 tunnell o wellt yn cael eu hailgylchu bob blwyddyn yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn amcangyfrif costau diwedd oes ar gyfer nifer o eitemau untro yng Nghymru. Amcangyfrifir mai ‘Cyfanswm Cost Gweddilliol Trefol’ defnyddio gwellt plastig yng Nghymru yw £22,566, sef cost o 0.01c yr eitem. Dywed hefyd, fodd bynnag, oherwydd natur ‘ar-hyd-y-lle’ y gwellt, y caiff oddeutu 13 tunnell ohonynt eu taflu i finiau sbwriel bob blwyddyn. Amcangyfrifir bod hyn yn costio £29,430, sef cost o 0.08c yr eitem.

Treth plastig untro

Nod unrhyw dreth ar blastig untro fyddai annog pobl i ddefnyddio llai ohono. Mae polisi gwastraff (gan gynnwys ailgylchu) yn fater datganoledig. Felly, mae Llywodraeth y DU yn datblygu polisïau ar gyfer Lloegr a chyfrifoldeb y gweinyddiaethau datganoledig yw datblygu a gweithredu eu polisïau a’u dulliau eu hunain, o fewn fframwaith gofynion yr UE. Mae strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff (2010) Llywodraeth Cymru yn nodi ei pholisi yn y maes hwn.

Byddai codi treth ar blastig untro yn cyd-fynd â Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth Cymru drwy gyflawni blaenoriaethau Gweinidogion ar gyfer datblygu ‘economi gylchol‘, lle nad yw plastigion byth yn wastraff ac maent yn cyfrannu’n gadarnhaol at yr economi.

Codi tâl am fagiau siopa

Mae lleihau’r defnydd o blastig untro drwy drethu eisoes wedi’i gyflwyno yng Nghymru yn sgîl    Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010. Ar 1 Hydref 2011, Cymru oedd y wlad gyntaf i gyflwyno gofyniad statudol i godi tâl am y rhan fwyaf o fagiau siopa untro. Ers hynny, mae’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr wedi cyflwyno dulliau tebyg o godi isafswm o 5c am bob bag plastig a ddefnyddir.

Yn wreiddiol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gytundeb gwirfoddol a oedd yn annog manwerthwyr i roi eu derbyniadau net i achosion da. Fodd bynnag, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 bellach yn ei gwneud yn ofynnol i fanwerthwyr roi eu derbyniadau net o werthiant bagiau siopa at ddibenion elusennol sy’n ymwneud â diogelu neu wella’r amgylchedd, ac sydd o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i Gymru gyfan neu unrhyw ran o Gymru. Bwriedir i hyn liniaru effaith y defnydd o fagiau siopa plastig.

Datblygiadau yn Lloegr

Ar 11 Ionawr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Chynllun Amgylchedd 25-mlynedd ar gyfer Lloegr, a oedd yn amlinellu deg nod ar gyfer gwella’r amgylchedd gan ddefnyddio dull ‘cyfalaf naturiol’, gan gynnwys:

Work towards eliminating all avoidable waste by 2050 and all avoidable plastic waste by end of 2042.

Mae blogdiweddar gan y Gwasanaeth Ymchwil yn rhoi trosolwg o’r cynllun, ac mae’n trafod sut y gallai effeithio ar Gymru.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mewn datganiad ysgrifenedig ar 27 Medi 2017, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd, "fel Llywodraeth, rydym yn derbyn bod angen gwneud mwy i wella ein cyfradd ailgylchu ymhellach ac i fynd i’r afael â sbwriel a’r materion sy’n gysylltiedig â chymdeithas a diwylliant ‘taflu’’. Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, awgrymodd mai’r nod fyddai "atal sbwriel rhag mynd i mewn i’r amgylchedd yn y lle cyntaf", ac i "werthfawrogi’r adnoddau hynny rydym ni’n eu cymryd yn ganiataol". Cyflwynodd yr astudiaeth ar Gyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd (EPR) gan Eunomia, i asesu opsiynau posibl, gan ddweud:

... rwyf wedi comisiynu astudiaeth i asesu ymyriadau posibl i gynyddu gweithgarwch atal gwastraff, codi cyfraddau ailgylchu a lleihau sbwriel ar y tir a sbwriel morol. Bydd cynlluniau cyfrifoldeb cynhyrchwyr, megis y cynlluniau sydd ar waith yn y DU ar hyn o bryd, yn cael eu cynnwys yn yr ymchwil. Bydd Cynlluniau Dychwelyd Blaendal yn cael eu cynnwys hefyd. Bydd yr ymchwil hefyd yn asesu effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol posibl cynlluniau ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr (EPR), gan gynnwys unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl.

Cyhoeddodd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Chwefror 2018 na fyddai’r dreth ar ddeunydd plastig untro yn cael ei chyflwyno gan fod ‘treth tir gwag’ wedi cael ei dewis yn lle hynny. Dywedodd:

Bydd Llywodraeth y DU yn dechrau casglu tystiolaeth ar sut y bydd yn ymdrin â phroblem plastig untro, gan gynnwys drwy ddefnyddio treth. Beth bynnag fo’i rinweddau, mae’r cyhoeddiad hwnnw, rwy’n credu, yn creu rhwystr ar lwybr unrhyw gynnig ar gyfer Cymru yn unig.

Mewn datganiad gan Lywodraeth Cymru, a gyflwynwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Chwefror 2018, trafododd Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd, gamau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran plastigion untro:

Rydym ni wedi sicrhau y bu Cymru’n rhan o alwad Llywodraeth y DU am dystiolaeth ynglŷn â sut y bydd yn ymdrin â mater plastig untro, gan gynnwys drwy ddefnyddio treth.

Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i weithio ar dreth plastig tafladwy annibynnol posibl ar gyfer Cymru.  

Yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mai 2018cyhoeddodd ganlyniadau’r astudiaeth Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd. Dywedodd:

Rwyf i’n ystyried diwygiadau i Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr fel bod cynhyrchwyr a manwerthwyr yn talu cyfran fwy o gostau rheoli gwastraff.

... Rydym yn parhau i weithio gyda Thrysorlys EM ar dreth plastig untro i’r DU.

...Gallaf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi llofnodi cytundeb Plastigau y DU WRAP.

Hefyd nododd y ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i "weithredu ar ein geiriau”:

Rwyf i wedi ymrwymo i sicrhau nad oes plastig untro i’w weld yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn …

Nid ydym yn defnyddio gwellt, trowyr na chyllyll a ffyrc plastig yn ein ffreuturau. Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddylanwadu ar y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, er enghraifft drwy ddarparu contractau caffael deunyddiau tafladwy yn holl adeiladau Llywodraeth Cymru, drwy weithio gyda Gwerth Cymru.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mehefin 2018, mewn ymateb i gwestiwn gan David Melding AC, llefarydd y Blaid Geidwadol, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i:

ddatblygu ystod o fesurau sy’n caniatáu i ni nodi tueddiadau a chamau gweithredu i helpu i leihau’r defnydd o blastigion, gan gynnwys pethau fel gwellt o fewn y sector cyhoeddus, ac yn enwedig mewn ysgolion.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 5 Ebrill 2017, arweiniodd Simon Thomas AC ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod ar Fil Lleihau Gwastraff ar gyfer Cymru. Roedd y cynnig yn canolbwyntio ar gynlluniau dychwelyd blaendal, ar waharddiad neu ardoll ar ddeunydd pecynnu polystyren (na ellir ei ailgylchu) ac ar osod gofynion newydd ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr i leihau deunydd pecynnu diangen.

Cafodd y cynnig gefnogaeth drawsbleidiol, a phasiwyd ef, gyda 34 o bobl o blaid, dim yn erbyn a 12 yn ymatal.

Trafododd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb flaenorol ar gyfer gwahardd deunydd pacio polystyren. Yn dilyn ymateb Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer mwy y gallai ei wneud i fynd ymlaen â’r mater, a chytunwyd i gau’r ddeiseb.

Ar hyn o bryd mae’r Pwyllgor Deisebau yn ystyried y deisebau cysylltiedig a ganlyn:

P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a’r offer sy’n gysylltiedig â hwy.

P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigion untro...mae’n bryd cyflwyno treth!

P-05-822: Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Ionawr 2018, mewn ymateb i ddatganiad gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y diwydiant bwyd a diod, tynnodd Joyce Watson AC sylw at yr ymgyrch ‘Cael gwared ar y gwelltyn’ (Ditch the Straw) (Saesneg yn unig). Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Mae’r fenter gwellt plastig mor syml, ond mae’n bwysig ...Felly, gallai pethau bach fel newid o blastig i bapur-oherwydd rydym ni’n gwybod fod pobl yn awyddus i ddefnyddio gwellt – gallai arbed cymaint.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Mehefin 2018, gofynnodd Joyce Watson AC "a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried edrych ar atal, neu yn wir, leihau cyflenwad y mathau hynny o wellt drwy ei pholisi caffael cyhoeddus".

Mewn ymateb, atebodd Julie James AC, Arweinydd y Tŷ:

Mae gennym ni Gwerth Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gweithio’n agos gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a WRAP i ddatblygu a chyflawni sawl cynllun arbrofol ar y cyd ag awdurdodau lleol a phartneriaid ledled Cymru i ddangos dulliau newydd ym maes caffael sy’n llwyr ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae un o’r cynlluniau arbrofol hynny yn ymwneud â gwellt plastig. Mae swyddogion yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i ddatblygu amrywiaeth o ddulliau o nodi tueddiadau a gweithredu camau i leihau neu ddileu’r defnydd o blastigau, gan gynnwys deunydd pacio bwyd a gwellt, yn ein contractau yn y dyfodol.

Ar 30 Mehefin 2018, daeth y Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018  i rym yng Nghymru, yn gwahardd cynhyrchu a gwerthu cynhyrchion sy’n cynnwys microbelenni plastig. Mewn ymateb i osod y rheoliadau gerbron y Cyfarfod Llawnar 6 Mehefin 2018, dywedodd David Melding AC:

Rwy’n credu bod hwn yn gam sylweddol i’w groesawu, ond dim ond y cam cyntaf ydyw. Mae angen newid mewn polisi cyhoeddus ynghylch defnydd cyfrifol o gynhyrchion plastig a gwahardd cynhyrchion plastig untro.

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd i lygredd microblastigau yn afonydd Cymru.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.